Y Pwyllgor Menter a Busnes |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 3 - y Senedd |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Mercher, 26 Mawrth 2014 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
08.45 - 12.30 |
|
|||
|
|
||||
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn: |
|||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
William Graham AC (Cadeirydd) Mick Antoniw AC Keith Davies AC Dafydd Elis-Thomas AC Rhun ap Iorwerth AC Julie James AC Eluned Parrott AC Joyce Watson AC |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
Edwina Hart AC, Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth, Minister for Economy, Science and Transport Claire Bennett, Dirprwy Gyfarwyddwr, Polisi, Cynllunio a Phartneriaethau Trafnidiaeth, Llywodraeth Cymru Callum Couper, Porthladdoedd Cysylltiedig Prydain, De Cymru Ian Davies, Stena Line Limited Alec Don, Milford Haven Port Authority Martin Evans, CILT Cymru Ceri Jones, Prifysgol Abertawe Dr Andrew Potter, Prifysgol Caerdydd James Price, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Llywodraeth Cymru Wyn Pritchard, Cyfarwyddwr, Construction Skills Wales |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Siân Phipps (Clerc) Claire Morris (Ail Clerc) Olga Lewis (Dirprwy Glerc) Andrew Minnis (Ymchwilydd) |
|||
|
|
||||
Trawsgrifiad
Gweld trawsgrifiad o'r cyfarfod.
1 Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon
1.1 Cafwyd ymddiheuriadau gan David Rees AC a Byron Davies AC. Nid oedd unrhyw ddirprwyon.
2 Ymchwiliad i gyfleoedd cyllido yr UE 2014-2020 (sesiwn 8) (09.00-09.30)
2.1.Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Ian Davies, Rheolwr Llwybrau – rhanbarth De Môr Iwerddon, Stena Line Limited; Alec Don, Prif Weithredwr a Mark Andrews, Cyfarwyddwr Materion Corfforaethol, a oedd ill dau yn cynrychioli porthladd Aberdaugleddau, a Callum Couper, Rheolwr Porthladd, Porthladdoedd Cysylltiedig Prydain, De Cymru.
3 Ymchwiliad i gyfleoedd cyllido yr UE 2014-2020 (sesiwn 9) (09.30-10.00)
3.1.Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Dr Andrew Potter, Ysgol Fusnes Caerdydd, Prifysgol Caerdydd a Martin Evans, cyn-gadeirydd ac aelod o Fwrdd Sefydliad Siartredig Logisteg a Thrafnidiaeth Cymru.
4 Ymchwiliad i gyfleoedd cyllido yr UE 2014-2020 (sesiwn 6) (10.10-10.50)
4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Ceri Jones, Adran Ymchwil ac Arloesedd, Prifysgol Abertawe, a Wyn Prichard, Cyfarwyddwr Cymru, Bwrdd Hyfforddi’r Diwydiant Adeiladu.
5 Cynllunio ac Ariannu Trafnidiaeth (11.00-12.00)
5.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth, Llywodraeth Cymru. Cefnogwyd y Gweinidog gan James Price, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Adran yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth a Claire Bennett, Dirprwy Gyfarwyddwr Polisi, Cynllunio a Phartneriaethau Trafnidiaeth.
5.2 Cytunodd Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth i:
- Rannu argymhellion y Grŵp Cynghori ar Fysiau;
- Ystyried a ddylid cynnwys y Gymdeithas Cludiant Cymunedol yn y Grŵp Cynghori ar Fysiau;
- Darparu nodyn ar broses gymeradwyo Llywodraeth Cymru o ran y penderfyniad ynghylch tocynnau rhatach, a sut y darparwyd cyngor i’r Gweinidog;
- Darparu nodyn ar sut y caiff amcanestyniadau demograffig Cymru eu hystyried wrth bennu lefelau ariannu teithio rhatach dros y tair blynedd nesaf, o gofio’r gostyngiadau yn y cyllid sydd ar gael ym mhob blwyddyn o’r cytundeb;
- Darparu’r wybodaeth ddiweddaraf am y cynlluniau i ddatblygu tocynnau teithio rhatach i bobl ifanc;
- Darparu nodyn ar y dull o ariannu’r gwaith o drydaneiddio rheilffyrdd yn ne Cymru, a nodwyd yn achos busnes amlinellol terfynol Llywodraeth Cymru ar gyfer trydaneiddio yn y Cymoedd, gan gynnwys adran 6 o Achos Busnes Amlinellol dyddiedig Mai 2012, ac os yn bosibl, gan gynnwys y ffigurau a adolygwyd o’r achos busnes;
- Darparu nodyn ar y trafodaethau a gafwyd ynghylch trydaneiddio rheilffordd gogledd Cymru, a materion trafnidiaeth ehangach sy’n gysylltiedig â hynny;
- Darparu’r wybodaeth ddiweddaraf am waith deuoli i gysylltu prif linell rheilffordd Gogledd Cymru â Lerpwl a Manceinion.
6 Papurau i’w nodi
7 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y canlynol: Ymchwiliad i Dwristiaeth (trafod y papur cwmpasu)
7.1 Penderfynodd y Pwyllgor, o dan Reol Sefydlog 17.42 i wahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y canlynol: Ymchwiliad i Dwristiaeth (trafod y papur cwmpasu).
8 Ymchwiliad i Dwristiaeth (trafod y papur cwmpasu) (12.00-12.15)
8.1 Ystyriodd y Pwyllgor yr eitem hon mewn sesiwn breifat.
8.2 Cymeradwyodd y Pwyllgor y cylch gorchwyl ar gyfer yr Ymchwiliad i Dwristiaeth.